Cyfarfodydd

P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn Ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb gan fod pwnc gwreiddiol y ddeiseb fel y'i cyflwynwyd, sef lefel sybsidiaredd 2017/18, wedi cael ei sortio.

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i oofyn am ei hymateb i bryderon a chwestiynau’r deisebwyr, ac i ofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i barhau i roi cymhorthdal ​​i helpu i dalu ffioedd cofrestru staff ysgol ar gyflog isel.


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • aros am sylwadau gan y deisebydd; a
  • gofyn am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y broses ar gyfer penderfynu lefelau cymhorthdal ​​unigol ar gyfer 2017-18, a gofyn a fydd cyfle i'r deisebydd gyflwyno ei sylwadau ynglŷn â hyn.