Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Economi Ddigidol
NDM6254 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil
yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth
2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Dogfennau Ategol
Bil
yr Economi Ddigidol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.56
NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU
ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â
rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Economi Ddigidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
- Cyfyngedig 5 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/2)
- Cyfyngedig 6 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/3)
Cofnodion:
8.1
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil
yr Economi Ddigidol.
Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 9)
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Economi Ddigidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
- Cyfyngedig 10 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/2)
- Cyfyngedig 11 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/3)
Cofnodion:
9.1
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol i ofyn am eglurhad ynghylch goblygiadau hawliau dynol cymalau
perthnasol y Bil.