Cyfarfodydd

Dull strategol cynghorau o gynhyrchu incwm a chodi tâl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Ddinas a Sir Caerdydd (Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Dull strategol cynghorau o ran creu incwm a chodi ffioedd: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Chwefror 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sylwadau fel rhan o'u hystyriaeth o'r Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol.

 


Cyfarfod: 06/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(5)-05-17 Papur 2 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

Reg Kilpatrick – Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Crafodd y Pwyllgor ar waith Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.

4.2 Cytunodd Reg Kilpatrick i anfon manylion am enghreifftiau o arfer da yn Lloegr lle mae nifer o awdurdodau lleol wedi mabwysiadu dull newydd o greu cwmnïau masnachu i gynhyrchu incwm.

 


Cyfarfod: 06/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-17 Papur 1 – Papur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

John Rae – Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Graham Hinchey – Aelod Cabinet – Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.

3.2 Cytunodd Jon Rae i wirio ac anfon gwybodaeth bellach am unrhyw gynlluniau yng Nghymru sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer awdurdodau lleol.

3.3 Cytunodd Graham Hinchey i anfon manylion ariannol y cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 2012 sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer yr awdurdod lleol ynghyd ag enghreifftiau o gynlluniau arloesol y mae'r awdurdod lleol wedi'u cyflwyno sydd o fudd i awdurdodau lleol eraill drwy rannu arfer da.

 


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-13-16 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-13-16 Papur 5 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ddull strategol cynghorau i greu incwm a chodi tâl.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn yn ystod gwanwyn 2017.