Cyfarfodydd

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Pumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-17

Papur 2 – Adroddiad drafft Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-17

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Cafodd Holly Pembridge ei chroesawu i'r cyfarfod a chyflwynodd yr adroddiad naratif, a fyddai'n cyd-fynd â'r data dadansoddi ar gyfer y gweithlu, recriwtio a chyflog pan gâi ei gyflwyno i'r Comisiwn gytuno arno yn yr hydref. Roedd yr adroddiad yn pontio'r cyfnod adrodd rhwng y Cynllun Cydraddoldeb a oedd yn dod i ben, a'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Bydd y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yn darparu'r Bwrdd â'r data a'r cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth yn ystod mis Gorffennaf, ac roedd y Tîm yn cydweithio'n agos â phenaethiaid gwasanaeth i ddiffinio amcanion y cynllun gweithredu a'u hymgorffori yng nghynlluniau'r gwasanaethau.

Roedd yr adroddiad blynyddol drafft yn adlewyrchu cwmpas eang ac ansawdd y gwaith a gynhaliwyd ar draws y sefydliad i sicrhau corff seneddol cynhwysol i'r staff a'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle, cadw gwobrwyon a chydnabyddiaethau allanol (megis IiP, Stonewall, Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Action on Hearing Loss) a gwaith lefel uchel ynghylch Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

Mae'r adroddiad hebyd yn nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt yn barhaus, gan gynnwys datblygiad parhaus rhwydweithiau'r gweithle, Asesiadau Effaith Cydraddoldeb lefel uchel a chanolbwyntio eto ar ymgorffori'r Cynllun Gweithredu BME mewn gwaith ehangach.

Gwnaeth y Bwrdd Rheoli argymhellion ar yr adroddiad drafft, gan gynnwys:

·                cyfuno naratif ymgysylltu'r gwaith allgymorth a gwaith y pwyllgorau i ddangos y cysylltiad yn narpariaeth y gwasanaethau;

·                sicrhau bod yr adroddiad wedi'i alinio gydag adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn, a bod cyd-gysylltu rhwng yr hyn a nodir a'r polisi recriwtio a'r cynllun gweithredu BME. Craig Stephenson a Holly i drafod sedd ar y grŵp cyfeirio i wella gwaith y cynllun gweithredu BME.

·                Non Gwilym a Holly i wella'r ffocws ar gyfraniad Amrywiaeth a Chynhwysiant; a

·                cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae'r sefydliad eisoes yn ei gyfrannu at ymgyrch y Rhuban Gwyn, a'r wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Gorffennaf.

Gofynnodd y Bwrdd, pan fydd ystadegau'r gweithlu ar gael, iddynt lywio rhai o'r camau gweithredu ar gyfer y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddrafft 2016-21 ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, i gyflwyno'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-2016, a oedd yn nodi bod y cynnydd o ran cydraddoldeb wedi bod yn dda ar y cyfan, gan roi llwyfan cadarn i symud ymlaen ymhellach yn ystod y Pumed Cynulliad.

 

Oherwydd pryderon ynghylch crynhoad uwch o weithwyr BME mewn swyddi is, gwnaed newidiadau, er enghraifft drwy hysbysebu mwy o swyddi'n fewnol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae'r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd yn gweithio'n agos gyda'r rhwydwaith REACH i benderfynu ar gyfleoedd i gefnogi cydweithwyr BME i wireddu eu potensial. Nid yw'r ystadegau anabledd wedi gwella, felly bu'n rhaid rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i'r afael â'r mater drwy hysbysebu a recriwtio a'r rhwydweithiau cymorth.

 

Hefyd, cyflwynodd Holly y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft newydd ar gyfer 2016-21, sydd wedi cael ei halinio'n fwy strategol â Strategaeth Comisiwn y Cynulliad na chynlluniau blaenorol. Mae hefyd yn adlewyrchu blaenoriaethau sydd wedi codi, fel y Tasglu Digidol a'r Senedd Ieuenctid.

 

Cafwyd adborth ar y strategaeth gan y Bwrdd Rheoli, y rhwydweithiau cydraddoldeb, Ochr yr Undebau Llafur a 'chyfeillion beirniadol' allanol. At hynny, lansiwyd arolwg cyffredinol ar hygyrchedd y Cynulliad er mwyn llywio datblygiad y Cynllun Gweithredu. Gofynnodd Joyce Watson, Comisiynydd y Cynulliad dros gydraddoldeb, am farn grwpiau plaid, ac ymgynghorwyd â staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd.

 

Bydd y Strategaeth yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr, ac ar ôl cytuno arno, bydd Holly yn gweithio gyda'r Penaethiaid Gwasanaethau i gytuno sut y bydd y meysydd gwasanaeth yn bodloni'r rhwymedigaethau yn y Strategaeth drwy eu cynlluniau gwasanaeth, gan sicrhau bod dull holistaidd yn cael ei fabwysiadu mewn perthynas â'r blaenoriaethau eraill sydd wedi codi.

 

Diolchodd y Bwrdd i Holly am y gwaith sydd wedi'i gwblhau, gan groesawu'r Strategaeth a natur fwy strategol y ddogfen, a'r pwyslais ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb fel bod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori mewn arferion gwaith. Argymhellodd y Bwrdd y dylid cyflwyno mwy o naratif ymlaen llaw ar berfformiad y sefydliad o ran cydraddoldeb. Mynegwyd diddordeb y Bwrdd Taliadau o ran cofnodi data Aelodau a Staff Cymorth, a dywedodd Holly fod y ffordd y caiff y data ei ddefnyddio yn fater sy'n cael ei ystyried.

 

Cytunodd y Bwrdd y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariadau rheolaidd ynghylch y Cynllun Gweithredu.

 

Camau i’w cymryd: Bydd Holly Pembridge yn dod â Chynllun Gweithredu, wedi'i ddatblygu gyda'r Penaethiaid Gwasanaethau, yn ôl i'r Bwrdd Rheoli yn y flwyddyn newydd.