Cyfarfodydd

Tasglu Digidol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Argymhellion y Tasglu Digidol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Ymateb i argymhellion y Tasglu Digidol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Argymhellion y Tasglu Digidol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Cyflwynodd Non Gwilym yr ymateb drafft i argymhellion y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol, a baratowyd mewn ymgynghoriad ag Anna a James er mwyn sicrhau ei fod yn asio'n strategol. Byddai'r ymateb yn cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 6 Tachwedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hyd yn hyn, ac er mwyn iddynt allu ystyried yr adnoddau a'r goblygiadau ariannol o gyflawni'r argymhellion a nodi'r prif flaenoriaethau.

Nododd y Bwrdd fod gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas â'r rhan fwyaf o'r argymhellion, a chyfeiriodd at newidiadau i'r papur i wella eglurder ynghylch faint o waith a gyflawnwyd eisoes a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r uchelgeisiau, a'r costau.

 

 


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)

Argymhellion y Tasglu Digidol - ein hymateb

Papur I ddilyn

 

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i'r Comisiynwyr ar 17 Gorffennaf i adolygu argymhellion y Tasglu Digidol. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud yn awr i ystyried y gost a'r adnoddau angenrheidiol i weithredu argymhellion unigol. Byddai gwybodaeth fanylach ar agweddau ymarferol a goblygiadau adnoddau yn cael eu cyflwyno i'r Comisiynwyr yn yr hydref er mwyn galluogi iddynt ymateb.

CAM I’W GYMRYD: Non Gwilym i ddosbarthu'r gwaith hwnnw maes o law er mwyn cael sylwadau.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Argymhellion y Tasglu Digidol

Eitem lafar

Cofnodion:

Cyflwynwyd argymhellion y Tasglu Gwasanaethau Newyddion Digidol i'r Comisiynwyr. Croesawyd yr adroddiad a thrafodwyd sawl agwedd, gan gynnwys yr angen i ymateb yn fwy manwl i argymhellion unigol.

 

Trafodwyd y posibilrwydd o newid deinameg o ran cynnwys diddorol, a'r berthynas rhwng y Cynulliad fel sefydliad a'i gyfansoddiad gwleidyddol.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am i waith pellach gael ei wneud fel y gallent ddychwelyd at y materion a nodwyd yn y cyfarfod yn nhymor yr hydref.


Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)

Argymhellion y Tasglu Digidol

Eitem Lafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd Non Gwilym amlinelliad o'r adroddiad a lansiwyd ar 21 Mehefin gan y Tasglu Digidol, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion ynghylch sut y cyflwynodd y Cynulliad gymaint o'r wybodaeth a'r cynnwys a gynhyrchwyd i'n cynulleidfaoedd.  Roedd y pwyslais yn adlewyrchu'r ffordd y mae pobl bellach yn cymryd eu newyddion a’u gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd ac i raddau helaeth ar lwyfannau digidol.

Diolchodd Non i'r sawl a gyfrannodd at yr adroddiad. Ynhyd â'i thîm, roeddent yn ystyried sut y cafodd y wybodaeth ei chrynhoi'n effeithiol i adlewyrchu anghenion cynulleidfaoedd y Cynulliad a sut i gynllunio a gweithredu'r argymhellion. Byddai grid cyfathrebu yn cael ei ddefnyddio yn holl gyfarfodydd y Bwrdd Rheoli yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad y Tasglu Digidol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad drwy grynodeb byr o rôl a gwaith y Tasglu. Trafodwyd rhai o’r argymhellion a ragwelir yn yr adroddiad sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, a chytunwyd i ystyried eu hymateb yn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf.


Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Tasglu digidol

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Llywydd fod y Tasglu wedi dechrau ar ei waith, a'i bod wedi mynychu'r cyfarfod cyntaf.