Cyfarfodydd
Diweddariad ar faterion strategol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Amserlen Cynllunio Strategol - Trafodaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cafodd yr amserlen ei llunio i helpu i gynllunio'n well ar draws y
sefydliad ar gyfer risgiau a oedd yn gysylltiedig â'i gilydd, cynllunio
capasiti, strategaeth y gyllideb a chyfathrebu strategol. Trafododd y Bwrdd
werth yr amserlen a sut y gellid ei defnyddio yn y dyfodol.
Fe'i hystyriwyd i fod yn ddogfen dda i gefnogi trafodaethau cydlynol am
risgiau a phwysau, a byddai'n helpu i greu cyd-ddealltwriaeth os gellid ei
gyflwyno mewn fformat addas ar gyfer y staff. Byddai angen diweddaru'r ddogfen
mewn amser real er mwyn iddi fod o ddefnydd, a gellid bod angen ei symleiddio,
felly ateb posibl fyddai cyflwyno fersiwn symlach ar Sharepoint â lincs i roi
manylion.
Diolchwyd i Kathryn Hughes am ei gwaith yn llunio a diweddaru'r ddogfen.
Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Mae fersiwn arall o'r adroddiad
Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd yn cael ei pharatoi a gofynnwyd i
Benaethiaid Gwasanaeth ystyried a allent ychwanegu unrhyw naratif pellach mewn
perthynas â gwelliannau.
Cyfarfu'r Bwrdd a
swyddogion eraill ar 16 Mai i drafod trefniadau parhad busnes i staff yn ystod
Cynghrair y Pencampwyr UEFA a'r Ŵyl ym Mae Caerdydd.
Byddai nodyn yn cael ei roi
i staff i roi gwybod iddynt am y trefniadau angladd i Rhodri Morgan ar 31 Mai.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol
Eitemau llafar