Cyfarfodydd
NDM6171 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y
cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r
sector cyhoeddus ehangach.
2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi
Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir
ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac
amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch
swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau
tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a
(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn
deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion
cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.
'Deddf
Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2, a rhoi yn
ei le:
Yn cydnabod cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad
gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn
gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y
Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol
yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.
'Australian
Local Government Act 1989'
[Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 4. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt 3 (a) a rhoi yn ei le:
gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a
Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth a
glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.
'Trawsgrifiad
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 13 Mai 2014'
Gwelliant 6. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y bwlch
rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn
awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.
2. Yn nodi llwyddiant
Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth
Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella
tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu
panelau taliadau annibynnol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
(a) deddfu i gyflwyno
cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n
genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy
fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector
cyhoeddus yng Nghymru; a
(b) diffinio rôl prif
weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu
taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog
canlyniadau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
7 |
4 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
17 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant
3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y
Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol
yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
4 |
17 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth a
glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
7 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y bwlch
rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn
awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.
2. Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
(a) gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a
(b) diffinio rôl prif
weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu
taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog
canlyniadau.
4. Yn nodi'r dystiolaeth
a glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.
5. Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
7 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.