Cyfarfodydd

NDM6145 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Dadl Plaid Cymru

NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 3. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

10

28

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

4

7

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

10

32

46

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6145 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.