Cyfarfodydd

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill, a chytunodd i rannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr gyda'r Dirprwy Weinidog i ofyn am ei barn ar y cynnwys, a gofyn am fwy o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatrys materion yn ymwneud â mynediad i ddyfroedd mewndirol yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a'r deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i'r ymgynghoriad diweddar ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, a rhagor o fanylion am ei dull arfaethedig o gael mynediad at ddiwygio, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn, ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 19 Mehefin, am ragor o fanylion am y canlynol:

·         yr ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i opsiynau ar gyfer diwygio deddfwriaeth mynediad yn sgil yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy; a'r

·         trafodaethau sy'n cael eu hwyluso â'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig; ac

·         aros am fanylion pellach ar y cynigion ar gyfer diwygio sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn dilyn ei datganiad ar 13 Chwefror, i ofyn iddi egluro a fydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn cynnwys yr opsiwn i sefydlu hawl mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol, ac i holi am yr amserlen gysylltiedig.

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhannu'r sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan y deisebydd, ac er mwyn gofyn am gael gwybod pan fydd cwmpas ac amserlen ar gyfer datblygu cynigion diwygio yn cael eu cwblhau y flwyddyn nesaf.