Cyfarfodydd

P-05-719 Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-719 Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail nad yw’n swyddogaeth y Pwyllgor i awgrymu wrth fudiadau’r trydydd sector eu bod yn ceisio arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd yn awgrymu y gall fod am ddangos llythyr Ysgrifennydd y Cabinet i unrhyw sefydliadau y mae’n teimlo a fyddai’n elwa o gael gwybodaeth am ariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol.