Cyfarfodydd

P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE.  Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Prif Weinidog a gofyn am atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd.

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon at y deisebwr gopi o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar yr Oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac aros am ei farn am y wybodaeth a dderbyniwyd.

 

 


Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i basio'r ddeiseb a sylwadau ychwanegol y deisebydd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a gofyn iddo ystyried codi'r materion yn y ddeiseb wrth graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ar y goblygiadau i Gymru o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.