Cyfarfodydd

P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd ar P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

  • gau'r ddeiseb ar y sail bod y trefniadau diogelwch wedi'u nodi drwy asesiad o'r risg i ddisgyblion ar y platfform yng ngorsaf Treorci, a chan fod cynnig cludiant am ddim yn benderfyniad masnachol i weithredwr y fasnachfraint rheilffyrdd; ac
  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb fel rhan o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am yr ohebiaeth ddiweddaraf, ynghyd ag ymateb i wybodaeth y gofynnwyd amdani'n flaenorol gan Trenau Arriva Cymru, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Trenau Arriva Cymru er mwyn rhannu sylwadau pellach y deisebydd a gofyn am ei ymateb i'r pryderon diogelwch a godwyd gan y deisebydd; a

·         Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ofyn am ei farn ar y drafnidiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion yn Ysgol Treorci ac a ydyw wedi cael unrhyw drafodaethau am ddiogelwch y disgyblion sy'n defnyddio'r orsaf.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         Trenau Arriva Cymru i rannu pryderon y deisebydd a gofyn a fyddent yn ystyried gwneud newidiadau i'r trefniadau diogelwch ar y platfform yng ngorsaf Treorci, gan gynnwys maint y lloc ar gyfer disgyblion; ac

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i roi gwybod iddo am sylwadau'r deisebydd mewn perthynas â diogelwch disgyblion ar y platfform yng ngorsaf Treorci.

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Arriva Trains Wales i'w gwneud yn ymwybodol o'r ddeiseb a gofyn am eu barn ar y materion a nodwyd, gan gynnwys pryder y deisebydd ynghylch diogelwch ar y platfform yng ngorsaf Treorci.