Cyfarfodydd

P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb, o gofio bod yr ardal hon wedi'i chynnwys yn y broses asesu manwl ar gyfer gorsafoedd newydd posibl; ac wrth wneud hynny

·         anfon safbwyntiau'r deisebydd ar leoliad orsaf at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn iddo ystyried hyn fel rhan o unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i:

 

·         ofyn am fanylion y drafodaeth ar orsaf newydd yng Ngabalfa fel rhan o'r Asesiad Cymal 1 o Flaenoriaethu Gorsafoedd Rheilffordd Newydd; a

·         gofyn a fydd ystyriaeth ar wahân yn cael ei rhoi i gysylltiadau posibl â Metro De Cymru yn yr ardal a gwmpesir gan y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-714 Cynnwys gorsaf ym Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o unrhyw gynnig ar gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y gwaith blaenoriaethu wedi’i gwblhau yng nghyswllt y rhestr o orsafoedd newydd o dan y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol.

 

 


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion ynglŷn â lleoliad posibl unrhyw orsaf newydd yng Ngabalfa, yn ogystal â sut a phryd y bydd cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu.

 

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb y Llywodraeth cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.