Cyfarfodydd

Maes Awyr Caerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Mawrth 2021)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio breifat ar faterion masnachol sensitif yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon nodyn ar sut mae'r llog ar y benthyciadau masnachol yn cael ei reoli, ynghyd â chanlyniad y broses – sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd – i benodi Cadeirydd newydd Holdco.

4.3 Ystyriodd yr aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi barn y Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai'r Adroddiad Etifeddiaeth argymell bod y Pwyllgor olynol yn y 6ed Senedd yn parhau i fonitro materion sy’n ymwneud â Maes Awyr Caerdydd.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

Steve Vincent –Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheoli Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd a Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

2.2 Dywedodd Simon Jones wrth y Pwyllgor ei fod wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Holdco o 30 Medi 2020 ymlaen a bod trefniadau ar y gweill i benodi olynydd.

 


Cyfarfod: 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-20 Papur 2 - Adolygiad o berfformiad a gobeithion Maes Awyr Caerdydd yng nghyd-destun economeg meysydd awyr rhanbarthol y DU ar hyn o bryd (Adroddiad gan Northpoint Aviation, Ymgynghorydd Teithio a Thwristiaeth)

PAC(5)-08-20 Papur 3 - Maes Awyr Caerdydd: perfformiad cyfredol a’r cyd-destun busnes (Adroddiad gan Northpoint Aviation)

 

Roger Lewis – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Deb Bowen Rees – Prif Swyddog Gweithredol, Maes Awyr Caerdydd

Huw Lewis - Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni

Terry Morgan - Cyfarwyddwr Anweithredol, Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Aelodau'n holi Roger Lewis, Deb Bowen Rees, Terry Morgan a Huw Lewis fel rhan o'u hymchwiliad i Faes Awyr Caerdydd.

 


Cyfarfod: 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (24 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2019)

PAC(5)-01-20 Papur 2 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r llythyr a hefyd y penawdau o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Maes Awyr Caerdydd 2018-19, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Rhagfyr 2019.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, cyn eu sesiwn graffu arfaethedig yn ddiweddarach y tymor hwn.

 


Cyfarfod: 18/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Maes Awyr Caerdydd: Ystyried y llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Hydref 2019)

PAC(5)-29-19 Papur 3 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i drafod ymhellach ar ôl derbyn yr wybodaeth ychwanegol a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 30/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (20 Medi 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai ymweliad â’r maes awyr yn fuddiol.

 


Cyfarfod: 23/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

PAC(5)-22-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-22-19 Papur 2 – Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Ymateb y DU i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru (6 Medi 2019)

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

2.1 Datganodd Simon Jones fuddiant fel Cadeirydd Holdco.

2.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·         Nifer y llwybrau a’r cyrchfannau yr oedd Thomas Cook yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd;

·         Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi mewn perthynas â gwerth cymhorthdal PSO, nifer y teithwyr ac asesiad gwerth am arian y gwasanaeth ar gyfer y contractau blaenorol ar gyfer y Gwasanaeth Awyr o fewn Cymru; a

·         Chadarnhau a yw nifer swyddogion Llu’r Ffiniau wedi cynyddu yn y maes awyr fel rhan o’r gwaith cynllunio wrth gefn at Brexit.

2.4 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o faterion perfformiad ariannol yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd.

 


Cyfarfod: 03/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 03/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Roger Lewis - Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Deb Barber - Prif Swyddog Gweithredol, Maes Awyr Caerdydd

Huw Lewis - Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Roger Lewis, Debra Barber a Huw Lewis o Faes Awyr Caerdydd, a hynny fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i berfformiad presennol Maes Awyr Caerdydd.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Maes Awyr Caerdydd: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu argymhellion y Pwyllgor

PAC(5)-32-18 Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chytunodd i:

·         geisio eglurhad pellach ar nifer o bwyntiau; a

·         threfnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 i graffu ar berfformiad y maes awyr, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer gwaith datblygu yn y tymor canolig a'r tymor hir.

 


Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (2 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-30-17 Papur 1 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlygu pryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i benodi aelod allanol i fwrdd Holdco gan ofyn am esboniad am yr oedi.

 


Cyfarfod: 08/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Ionawr 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad

Briff Ymchwil

PAC(5)-09-16 Papur 1: Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-09-16 Papur 2: Ymateb Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf

PAC(5)-09-16 Papur 3: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i Gaffael Maes Awyr Caerdydd.

4.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Chaffael Maes Awyr Caerdydd.

4.3 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:

  • Anfon manylion y dangosyddion perfformiad a ddatblygwyd gan Holdco;
  • Yr effaith y bydd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ei chael ar weithrediad Maes Awyr Caerdydd;
  • Rhannu’r ohebiaeth mewn perthynas â rôl Cadeirydd CIAL ar Fwrdd Holdco;
  • Anfon copi o'r Cynllun Meistr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, pan fydd ar gael, yn 2017;
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y system offer glanio; a
  • Dywedodd y byddai'n ailedrych ar y diwydrwydd dyladwy a roddwyd i Cardiff Aviation ac yn rhoi sylwadau yn unol â hynny.