Cyfarfodydd

Comisiynydd Safonau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Reol Sefydlog 22

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).


Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Reol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

1.1        Trafododd yr Aelodau’r adrodd iad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 a chytunodd arno.

 

1.2        Trafododd y Pwyllgor lythyr gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).


Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).


Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

2.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Neil McEvoy AS a Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau Dros Dro.


Cyfarfod: 01/02/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

2.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Neil McEvoy AS a Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau Dros Dro.


Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

2.2 Gofynnodd Andrew RT Davies iddi gael ei nodi y byddai am i’r holl wybodaeth yn atodiad y Comisiynydd gael ei chyhoeddi yn hytrach na’i golygu. Fodd bynnag, barn y mwyafrif yn y Pwyllgor oedd y dylid golygu’r wybodaeth yn ymwneud â’r cyfarfod, gan ei fod o’r farn bod y crynodeb o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod, fel y’i nodir ym mharagraff 6.4 o adroddiad y Comisiynydd, yn ddigonol ar gyfer dealltwriaeth eglur o’r gŵyn a chanfyddiadau’r Comisiynydd yn yr achos hwn.


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Comisiynydd Safonau: Tâl i'r Comisiynydd Safonau Dros Dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor gynigion i adolygu’r tâl y mae’r Comisiynydd Safonau Dros Dro yn ei gael.

 

4.2 Cytunodd y pwyllgor i argymell y dylai tâl y Comisiynydd Dros Dro gael ei ddiwygio er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â chyflog deiliad blaenorol y swydd o 7 Hydref 2020.

 

4.3 Nododd y pwyllgor bod angen i’r Senedd gymeradwyo unrhyw benderfyniad i amrywio telerau penodiad y Comisiynydd Safonau Dros Dro, o dan Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.


Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Comisiynydd Safonau: Tâl i'r Comisiynydd Safonau Dros Dro

Cofnodion:


Cyfarfod: 03/03/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

 

2.2 Yn ystod y drafodaeth ar adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i), cafodd yr Aelodau dystiolaeth lafar gan Vikki Howells AC, sef yr Aelod dan sylw. Roedd Anthony Cooper, Ysgrifennydd Grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol, yn bresennol gyda Ms Howells.

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Y Comisiynydd Safonau: sesiwn gyflwyniadol gyda'r Comisiynydd Safonau

Syr Roderick Evans QC

 

Cofnodion:

2.1 Amlinellodd Syr Roderick Evans QC, Comisiynydd Safonau, ei flaenoriaethau ar gyfer ei dymor yn y swydd.

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Y Comisiynydd Safonau: Trafodaeth ynghylch yr adolygiad Lobïo posibl

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Comisiynydd Safonau i wneud rhywfaint o waith cychwynnol yn edrych ar sut y mae'r trefniadau lobïo yn gweithio mewn Seneddau eraill ac i gyflwyno ei ganfyddiadau i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd.