Cyfarfodydd

P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau Cynllunio yn Rhoi Sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Cymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol Lleol, neu i’r Posibilrwydd y bydd y Grwpiau a'r Sefydliadau hyn yn cau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth sy'n fater digon arwyddocaol yn ogystal â diffyg cysylltiad â'r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau Cynllunio yn Rhoi Sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Cymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol Lleol, neu i’r Posibilrwydd y bydd y Grwpiau a'r Sefydliadau hyn yn cau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ofyn am sylwadau’r sefydliad  ar bwysigrwydd y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad ynglŷn â sut mae'r gofyniad ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016) yn gweithio’n ymarferol a’r dylanwad y mae’n ei gael, sef bod rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ystyried sylwedd sylwadau lleol, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed gan grwpiau cymunedol lleol.