Cyfarfodydd

P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • cau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb  cysylltiad gyda'r deisebwr; ac wrth wneud hynny
  • aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol  (IPFR), a'i anfon ymlaen at y deisebydd er gwybodaeth.

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio y gallai cyhoeddi cronfa driniaeth newydd fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y ddeiseb, cytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.