Cyfarfodydd

P-05-698 Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-698 Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan fod Maes Awyr Caerdydd wedi datgan yn glir mai eu cyngor i Lywodraeth Cymru yw cadw enw Maes Awyr Caerdydd.

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-698 Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Faes Awyr Caerdydd, yn gofyn am eu barn ar y cynnig penodol, ac ynghylch a yw wedi ystyried yr egwyddor o enwi’r maes awyr ar ôl person blaenllaw o Gymru.