Cyfarfodydd

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 


Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd: Trafod llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod a derbyniodd y llythyr drafft, yn amodol ar fân newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad dilynol ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd.

 


Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Yr Athro Roger Walker, Prif Swyddog Fferyllol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i gadarnhau’n ysgrifenedig y dyddiad y bydd y cyd-adolygiad gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r gwasanaeth cenedlaethol rhoi’r gorau i ysmygu yn cael ei gwblhau.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried dull gweithio’r Pwyllgor ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod a chytunodd ar ei ddull gweithio ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

NDM5033 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

 

NDM5033 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 26/04/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.


Cyfarfod: 23/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-02-12 papur 7

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif faterion yn ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.


Cyfarfod: 02/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a chytunodd i ddychwelyd er mwyn trafod ei gasgliadau ac argymhellion allweddol yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 8 Chwefror.

 


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol

 

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru

          HSC(4)-01-12 papur 6

 

Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

          HSC(4)-01-12 papur 7

 

Fferylliaeth Gymunedol Cymru

          HSC(4)-01-12 papur 8

 

Y Gymdeithas Cynllunio Teulu – gwybodaeth yn dilyn y sesiwn tystiolaeth lafar ar 16 Tachwedd

          HSC(4)-01-12 papur 9

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-01-12 papur 3

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Gwyn Thomas, y Prif Swyddog Gwybodaeth

Andrew Evans, Uwch-gynghorydd Polisi

Roger Walker, y Prif Gynghorydd Fferyllol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i gwestiynau am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu copi o’r papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ar iechyd y cyhoedd ynghylch gwerthuso cynllun mân anhwylderau fferyllfeydd cymunedol yn ngogledd-ddwyrain Lloegr.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban

HSC(4)-12-11 papur 1- Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban

 

Elspeth Weir, Pennaeth Polisi a Datblygu, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban

Malcolm Clubb, Uwch Fferyllydd Polisi a Datblygu, Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban

 

HSC(4)-12-11 papur 2 – Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

 

Alex MacKinnon, Cyfarwyddwr yr Alban, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd.

 

2.2 Cytunodd tystion o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban ddarparu:

·         copi o adroddiad gan Lywodraeth yr Alban ar ei adolygiad o wasanaeth iechyd cyhoeddus y fferyllfeydd cymunedol ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu a dulliau brys o atal cenhedlu hormonaidd;

·         linc i adroddiad gan Brifysgol Manceinion ar y newid mewn dulliau ymgynghori â chleifion mewn gofal sylfaenol a oedd yn archwilio i nifer y bobl yn yr Alban a ddefnyddiodd y Gwasanaeth Mân Anafiadau yn yr Alban.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

HSC(4)-12-11 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafodaeth breifat am y materion sy'n codi

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y materion sy’n codi o’i ymchwyliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymuneol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

HSC(4)-11-11 papur 1

          Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus

          Sue Thomas, Cynghorydd Gofal Sylfaenol a’r Sector Annibynnol

 

Toriad 10.20 – 10.30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y modelau a ddefnyddir i ddarparu gofal iechyd sylfaenol yn Lloegr.

 


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Diabetes UK Cymru a'r Gymdeithas Cynllunio Teulu

HSC(4)-11-11 papur 2 – Diabetes UK Cymru

 

Jason Harding, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Diabetes UK Cymru

 

HSC(4)-11-11 papur 3 – Y Gymdeithas Cynllunio Teulu

         

Melanie Gadd, Cydlynydd Prosiect ar gyfer prosiect Jiwsi’r gymdeithas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd y Gymdeithas Cynllunio Teulu i ddarparu’r canlynol:

·         Ffigurau ar nifer y fferyllfeydd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun atal cenhedlu hormonaidd brys (EHC); a

·         Rhagor o fanylion ynghylch a oes amrywiaeth ledled Cymru yng ngallu’r rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau EHC.

 

3.3 Gofynnodd y Pwyllgor am nodyn gan ei ysgrifenyddiaeth sy’n archwilio i ba raddau mae trefniadau ar waith i fferyllwyr drosglwyddo’u hyfforddiant a’u cymwysterau ar draws ffiniau byrddau iechyd lleol gwahanol a rhwng Cymru a Lloegr.

 


Cyfarfod: 10/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yn Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

HSC(4)-10-11 papur 2

         

Catherine O’Sullivan, Prif Swyddog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor am gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr adolygiad o wasanaethau fferylliaeth.


Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG

HSC(4)-09-11 papur 5 – Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

HSC(4)-09-11 papur 6 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

HSC(4)-09-11 papur 7 – Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Tâf

 

          Chris Martin, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Berwyn Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cyfarwyddwr Rhaglen Cenedlaethol Rheolaeth Meddyginiaethau

Bernadine Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gofal Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Tâf

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.


Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan BMA Cymru Wales, Cymdeithas y Meddygon Fferyllol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

HSC(4)-09-11 papur 1- BMA Cymru Wales

          Dr David Bailey, Cadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymru

Dr Phillip White, Trafodwr Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 2 – Cymdeithas y Meddygon Fferyllol

          Dr David Baker, Prif Weithredwr

 

HSC(4)-09-11 papur 3 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Paul Myers, Cadeirydd Etholedig

 

Toriad 10.25 – 10.30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fap sy’n dangos lleoliadau safleoedd practisau fferyllol yng nghefn gwlad Cymru.

 

2.3 Cytunodd Dr Myers i rannu papur gyda’r Pwyllgor ynghylch yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y defnydd o Adolygiadau ar y Defnydd o Feddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol.


Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

HSC(4)-07-11 papur 1

Anne Hinchliffe, Ymgynghorydd meddygol ym maes Iechyd Cyhoeddus Fferyllol

Nuala Brennan, Ymgynghorydd meddygol ym maes Iechyd Cyhoeddus Fferyllol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am: y data sydd ar gael ynghylch nifer yr adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau a gynhelir; a gwybodaeth bresennol ynghylch dewisiadau cleifion ar gyfer ymgynghoriadau gan feddygon teulu neu fferyllwyr.

 

3.3 Cytunodd Ms Brennan i ystyried system achredu wedi’i symleiddio ar gyfer fferyllwyr cymunedol a’r hyn y byddai’n ei chynnwys, a dywedodd y bydd yn rhannu eu sylwadau â’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru (10:30 - 11:30)

HSC(4)-04-11 papur 2

Russell Goodway, Prif Weithredwr

Ian Cowan, Cadeirydd

Chris James, Is-gadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd y tystion i rannu â’r Pwyllgor ganlyniadau’r arolwg y maent yn ei gynnal i gontractwyr fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru o’r gwasanaethau ychwanegol a gomisiynwyd gan y Bwrdd Iechyd lleol ac sy’n cael ei ddarparu, a pha wasanaethau fyddai o werth i’w cymunedau lleol ond nad ydynt wedi’u comisiynu gan y Bwrdd Iechyd lleol ar hyn o bryd.


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (09:30 - 10:30)

HSC(4)-04-11 papur 1

Mair Davies, Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru

Paul Gimson, Cyfarwyddwr dros Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am fodel fferyllfeydd cymunedol yr Alban, gan gynnwys ariannu gwasanaethau TG a rennir.

 

2.3 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am y datganiad ar y cyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch cydweithredu.