Cyfarfodydd

P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol canlynol o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae hi o blaid y ddeiseb ac wedi ei llofnodi.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a chau'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ofyn i’r deisebydd a Chyfoeth Naturiol Cymru p’un a ydynt wedi llwyddo i ddod i gytundeb, ac ystyried camau pellach yng ngoleuni’r ymateb.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.