Cyfarfodydd

P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod prif nod y ddeiseb yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses ddeisebu.

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr, a oedd wedi’u gwahodd i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen a oedd i gael ei sefydlu i ddatblygu strategaeth dementia, i ofyn iddynt annog y rhai sydd wedi llofnodi’r ddeiseb i roi eu barn ar y strategaeth pan gaiff ymgynghoriad ei chynnal arni.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.