Cyfarfodydd

NDM6053 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl Plaid Cymru

NDM6053 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylai:

 

(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

 

(b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; ac

 

(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod.

 

'Cod Gweinidogol Llywodraeth Cymru - Mai 2016'

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu is-bwyntiau (b) ac (c) a rhoi pwynt newydd yn eu lle:

 

Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu.

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

 

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6053 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylai:

 

(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

 

(b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; ac

 

(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu is-bwyntiau (b) ac (c) a rhoi pwynt newydd yn eu lle:

 

Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

1

21

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

30

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6053 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

 

2. Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

1

21

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.