Cyfarfodydd

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Adroddiadau - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad i Dai Carbon Isel: Yr Her

NDM6832 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ‘Dai Carbon Isel: yr Her', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

NDM6832 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ‘Dai Carbon Isel: yr Her', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 26/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd

NDM6795 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2018.

Dogfen Ategol
Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.00