Cyfarfodydd

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch materion a gododd o sesiwn graffu'r Pwyllgor gyda Phrif Swyddog Nyrsio Cymru ar 26 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 02/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio.

 


Cyfarfod: 30/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru

Polly Ferguson, Swyddog Nyrsio Iechyd Atgenhedlol Menywod

Helen Whyley, Swyddog Nyrsio Gweithlu, Addysg, Rheoleiddio a Diogelwch Cleifion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu'r Prif Swyddog Nyrsio a'i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • Nodyn yn manylu sut mae adroddiadau a gynhyrchwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cael effaith uniongyrchol ar ei gwaith;
  • Rhagor o fanylion am rôl gwasanaethau gweithlu, addysg a datblygu Llywodraeth Cymru yn y broses cynllunio gweithlu, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y dangosyddion a ddefnyddir wrth bennu cynlluniau gweithlu;
  • Nodyn ynghylch nifer y nyrsys ardal a chymunedol yng Nghymru;
  • Rhagor o fanylion ynghylch y cod hylendid sy'n cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran y Prif Swyddog Nyrsio, a chadarnhad ynghylch pryd fydd y gwaith wedi'i gwblhau.

2.3. Cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio i rannu'r copi diweddaraf o'r adroddiad rheolaidd y mae'n ei chael oddi wrth adran Cymru o'r fenter “Cryfhau'r Ymrwymiad”, sy'n rhedeg ledled y DU, sy'n ymwneud â nyrsio anableddau dysgu.