Cyfarfodydd

P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y trafodaethau parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Tata Steel, cyhoeddiad ynghylch yr arian ar gyfer gwelliannau i'r ffatri bŵer, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o gamau cadarn pellach y gall y Pwyllgor Deisebau eu cymryd. 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Tata Steel ynghylch pecyn o gefnogaeth mewn cysylltiad â'r gweithfeydd pŵer yn y gwaith dur.

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a chytunodd i aros am farn y deisebydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf cyn ystyried cau'r ddeiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law a chyllid pellach a ymrwymwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a gafwyd unrhyw drafodaethau diweddar â Llywodraeth Cymru ynghylch gorsaf bŵer newydd ym Mhort Talbot, cyn ystyried pa gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd .

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb. Yn sgil y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y mater hwn, a'r sylw sy'n cael ei roi iddo gan Bwyllgor arall, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cadw golwg ar y mater. 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod y Pwyllgor Menter a Busnes ar y pryd wedi cyfarfod i drafod y materion a oedd yn ymwneud â TATA Steel ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, cytunodd i ofyn i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a yw’n bwriadu ystyried y mater ymhellach, ac os felly, a fyddai’n cynnwys y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o’r ystyriaeth honno.

 


Cyfarfod: 05/04/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gorsaf Bŵer TATA Steel Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.