Cyfarfodydd

P-04-683 Coed mewn Trefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac yn sgil y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr un pwnc â'r ddeiseb.  

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am yr ymateb hwnnw a holi beth arall, yn eu barn hwy, y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen. 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fydd yn ystyried cynyddu brigdwf coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru fel blaenoriaeth ar gyfer proses y Datganiad Ardal y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu ato; a
  • thynnu sylw'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb gan ei fod yn gwneud gwaith ar y mater ar hyn o bryd.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau gweithredu a ganlyn:

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn pa gynnydd mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol sydd wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac a yw rhywogaethau eraill o blanhigion hefyd yn cael eu defnyddio at ddiben tebyg; a

·         gofyn barn y deisebwyr ar yr ymateb a gafwyd.

 

 


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i rannu'r ymateb a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r deisebydd ac i ofyn am ei farn cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.

 

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn os bydd canllawiau yn cael eu llunio ar y manteision y gall coed eu cynnig mewn trefi a dinasoedd ac ar wella brigdwf;

·         Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn pa gefnogaeth y mae’n ei ddarparu ar gyfer plannu coed stryd unigol mewn trefi a dinasoedd.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-683 Coed mewn Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         aros am sylwadau pellach gan y deisebydd a gofyn i’r Pwyllgor nesaf ystyried y ddeiseb ymhellach pan fydd ar gael;

·         tynnu sylw’r deisebydd at y paragraff olaf yn ymateb y Gweinidog, lle mae’n awgrymu y gallent gysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddatblygu manteision plannu trefol a choed cymunedol a’u helpu i gyflwyno ceisiadau am gyllid at y diben hwn, yn enwedig yng nghyd-destun gweithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.