Cyfarfodydd

P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/07/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd - Sgrinio ar gyfer Diabetes Math 1 - 13 Gorffennaf 2018

Papur 14

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad drafft - P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'r bwriad i'w gyhoeddi cyn toriad yr haf, gyda'r bwriad o gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Sesiwn Dystiolaeth – P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chris Jones, Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, byrddau iechyd lleol a chyrff proffesiynol, a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi rhagor o dystiolaeth cyn llunio adroddiad ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Beth Baldwin, Deisebwr

 

Sara Moran, Diabetes UK Cymru

 

Libby Dowling, Diabetes UK

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i Beth Baldwin, gan ganmol ei dewrder wrth gyflwyno'r ddeiseb a chan gynnig eu cydymdeimlad diffuant iddi ar golli ei mab, Peter.

 

Atebodd Beth Baldwin, Sara Moran a Libby Dowling gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y sesiwn dystiolaeth: P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i:

 

  • wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref; ac
  • ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol ac at gyrff proffesiynol yn gofyn am fwy o wybodaeth fanwl, yn enwedig ynghylch diagnosis a gofal mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, a chytunodd i wahodd y deisebwyr a Diabetes UK Cymru i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor ar y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Diabetes UK Cymru, y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn iddo ystyried cyfarfod â'r deisebwyr; a
  • phob Bwrdd Iechyd Lleol i ofyn am ragor o wybodaeth am eu trefniadau ar gyfer rhoi diagnosis ac atgyfeirio cleifion.

 

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • Cael tystiolaeth ychwanegol gan Diabetes UK Cymru;
  • aros am unrhyw ymateb y mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ei gael gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc a; a
  • defnyddio'r rhain fel sail ar gyfer llythyr arall at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

 


Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-682 y Pwyllgor a chytunodd i ysgrifennu at Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y gallai'r ymateb gan y Rhwydwaith fod yn sail i lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

6.2 Hefyd, nododd y Pwyllgor astudiaeth sy'n mynd rhagddo yn yr Almaen i ystyried a yw rhaglen sgrinio ar gyfer diabetes math 1 yn ymarferol ar draws poblogaeth fawr, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i adolygu canlyniadau'r astudiaeth pan fydd yn cael ei chwblhau yn 2017.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Trafod Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a:

·         nododd fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ysgrifennu at y Pwyllgor eto ar ôl iddo gael cyngor gan y rhwydwaith diabetes pediatrig i Gymru gyfan:

·         cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pam ei fod wedi dod i'r casgliad bod diagnosis prydlon unwaith y mae unigolyn yn dangos arwyddion o ddiabetes math 1 yn ddull mwy effeithiol a hefyd gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â’r deisebydd;

·         cytunodd i ofyn am bapur ymchwil ar ddull pob bwrdd iechyd i brofi am ddiabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc; a

·         chytunwyd i ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf a fyddent yn ystyried cynnwys y mater hwn ar ei flaenraglen waith ar gyfer y 5ed Cynulliad.