Cyfarfodydd

P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunodd hefyd i ofyn i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried y ddeiseb yn ystod ei waith craffu arfaethedig ar waith Comisiynydd y Gymraeg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd y Ganolfan Genedlaethol newydd ar gyfer Cymraeg i Oedolion a swyddogion y Llywodraeth wedi cwblhau’r gwaith o drafod materion ynghylch darpariaeth a ffioedd.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn ceisio ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd.