Cyfarfodydd

P-04-679 Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd gweld sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o ystyried ymrwymiad pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.