Cyfarfodydd

P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei gyfraniad.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y deisebydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.

 

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am ei farn ar gydnabyddiaeth y Prif Weinidog o'r potensial i gynghorau cymuned a thref ystyried penodi pencampwr y Gymraeg.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.