Cyfarfodydd

P-04-674 Dyfed, Dim Diolch

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-674 Dyfed, Dim Diolch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-674 Dyfed, Dim Diolch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a chytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor a’i hystyried ymhellach pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno cynigion ar gyfer strwythur llywodraeth leol yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-674 Dyfed, Dim Diolch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ef a'r deisebydd yn ddarpar ymgeiswyr i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd.