Cyfarfodydd

P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari

NDM6276 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

NDM6276 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (prawf gwaed CA125)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (Prawf gwaed CA125) – Trafodaeth breifat o dan 17.42(vi)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Rebecca Evans – Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd

 

Dr Rosemary Fox, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda:

  • rhagor o wybodaeth am ganran y canlyniadau cadarnhaol ffug a ddychwelwyd gan y prawf gwaed CA125;
  • cost yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a drefnwyd gan Felindre ym mis Mawrth 2016: a
  • rhagor o wybodaeth am y gost o weinyddu prawf CA125 unigol.

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Deisebydd – Margaret Hutcheson

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y deisebydd gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 

 

Nododd y Cadeirydd y trefnwyd i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Medi, a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu ati i ofyn am ragor o wybodaeth am y gost a amcangyfrifir ar gyfer cyflwyno sgrinio ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru gan ddefnyddio prawf gwaed CA125.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd a’r deisebydd, a chytunodd i wneud darn byr o waith ar y materion a godwyd ac i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebwr ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn nhymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125 Prawf Gwaed)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am gwestiynau manwl y deisebydd, ac yn arbennig, pam nad oes camau'n cael eu cymryd ar unwaith i gyflwyno sgrinio, o gofio bod Treial Cydweithredol y DU o Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKCTOCS) wedi dangos y gallai prawf gwaed blynyddol helpu i leihau'r nifer o fenywod sy'n marw o ganser o tua 20%; ac

·         argymell bod y Pwyllgor newydd yn ystyried gwneud darn byr o waith ar y mater.