Cyfarfodydd

P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-663 Bwyd yn ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn yr ystyriaeth fanwl o arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac o ystyried y boddhad a fynegwyd gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a chytunodd i aros am adroddiad y Pwyllgor ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, ac i geisio barn y deisebydd ar ôl hynny.

 

 


Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunwyd i ofyn i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ystyried y ddeiseb fel rhan o'i ymchwiliad arfaethedig i arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ei ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion maes o law.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, a hefyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, a chytunodd i anfon y wybodaeth sydd wedi dod i law hyd yn hyn at yr Archwilydd Cyffredinol a gofyn iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ynghylch darparu bwyd yn ysbytai Cymru.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd; a'r

·         Byrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.