Cyfarfodydd

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunwyd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y gyffordd yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu'r sylwadau manwl a gafwyd gan Gyngor Tref Cosheston am y darn ehangach o'r A477 fel y gellir eu hystyried.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd 36 mis cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ymateb i'r wybodaeth a'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Sir Benfro, i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch asesiadau pellach a wnaed mewn perthynas â dyluniad y ffordd a diogelwch y cyffordd, a gofyn am gopi o'r adolygiad 36 mis RSA.

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ynghyd â llythyr ategol gan gwmni cludiant lleol a chytunodd i:

·         roi rhagor o amser i Valero ac eraill anfon sylwadau, cyn anfon y rhain ymlaen at Lywodraeth Cymru a gofyn am ymateb; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i ofyn am ei farn am y mater a godwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y deisebwyr mewn perthynas â'u gohebiaeth â chwmnïau cludiant cyn ystyried unrhyw gamau pellach.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac, o ystyried natur fanwl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd i roi mwy o amser i'r deisebwyr baratoi sylwadau cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau pellach y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet er gwybodaeth; a

·         gofyn a ellid darparu copi o'r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 at y deisebydd pan fydd y broses wedi'i chwblhau.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniadau'r archwiliad yn ogystal ag ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a chytunodd i ysgrifennu ato, yn mynegi siom ynghylch yr oedi wrth symud ymlaen â’r archwiliad diogelwch ffyrdd cam 4, ac yn gofyn iddo am amserlen fwy pendant.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Cam 4 a sut y bydd barn y deisebwyr yn cael ei hystyried.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael ymateb i sylwadau'r deisebydd.