Cyfarfodydd
P-04-666 Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-666 Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 32 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 07.12.2015 Gohebiaeth – y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 165 KB
- 11.01.2016 Gohebiaeth - y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 2 PDF 59 KB Gweld fel HTML (2/3) 7 KB
Cofnodion:
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
·
Ofyn i'r deisebydd ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth
Leol (Cymru) drafft fel y gellir ystyried ei safbwynt yn y broses honno;
·
Gofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CCLlL)
ystyried barn y deisebwr pan fydd yn ystyried y Bil drafft; a
·
Chau'r ddeiseb.