Cyfarfodydd

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Eitem 3)

3 Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd

Andrew Slade

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

 

Duncan Hamer

Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau

 

Giles Thorley

Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru

 

Rob Hunter

Cyfarwyddwr Strategaeth, Pobl a Datblygu, Banc Datblygu Cymru

 

Papur ategol

Papur briffio cefndir gan Ymchwil y Senedd

Cwestiynau briffio (Saesneg yn unig)

Papur tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Adolygiad Regeneris o Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru (Saesneg yn unig)

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i’r Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd

 


Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (7 Mawrth 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn y Pwyllgor ar 8 Mawrth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod hwnnw, ac y byddai'r cam hwnnw'n cael ei nodi yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

Gareth Bullock - Cadeirydd, Cyllid Cymru ccc

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, a Gareth Bullock, Cadeirydd Cyllid Cymru plc, ar Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.

4.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:

·       Rhoi eglurhad ynghylch cyfansoddiad y panel dethol, pryd y cafodd penodiadau'r panel cynghori eu gwneud, a nifer yr aelodau a benodwyd o du allan i Gymru;

·       O fewn Llywodraeth Cymru, gofyn a ddylid rhannu'r cyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio â chyrff hyd braich;

·       Cadarnhau lefel y cyllid grant a gynigiwyd i ReNeuron; ac

·       Eglurhad ynghylch a gafodd cofnodion llawn eu cymryd yng nghyfarfodydd WIDAB ar 18 Mehefin 2013 a 24 Hydref 2013. 

4.3 Cytunodd Gareth Bullock i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ffioedd trefnu sy'n daladwy i Reolwyr y Gronfa gan Gwmnïau Buddsoddi.

 

 

 

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod ar 15 Mawrth 2016.

 


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-08-16 Papur 8 – Llythyr gan Darren Millar AC ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Tachwedd 2015)

PAC(4)-08-16 Papur 9 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Darren Millar AC (7 Rhagfyr 2015)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad, Sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror.