Cyfarfodydd

P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy’n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunwyd hefyd y dylid ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddynt ystyried y materion a godwyd wrth drafod y gyllideb nesaf.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae’n gefnogwr cofrestredig ymgyrch Achub Ysgolion Powys ac yn cymryd rhan weithgar yn un o’i his-ymgyrchoedd.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei sylwadau ar y wybodaeth ychwanegol a chwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu nac yn cadw data ar symudiadau disgyblion dros ffin Cymru/Lloegr; ac

·         anfon manylion y ddeiseb ymlaen at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am graffu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) pan gaiff ei gyflwyno, er mwyn iddynt allu ystyried y materion a godwyd.

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn:

·         Gofyn am ei farn am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr;

·         Gofyn pa ymchwil sydd wedi'i wneud i'r effaith ar ddisgyblion sy'n derbyn eu haddysg gynradd tu allan i Gymru a'u haddysg uwchradd yng Nghymru ac a oes gan gonsortia addysg unrhyw wybodaeth am nifer y disgyblion yr effeithir arnynt fel hyn.