Cyfarfodydd

P-04-657 Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â'r Stryd Fawr a'i Llwyddiant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-657 Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â Strydoedd Mawr a'u Llwyddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-657 Codi Tâl am Barcio a’r Berthynas â Strydoedd Mawr a’u Llwyddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i’r deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:

·         Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar lythyr y Gweinidog; ac

·         Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gamau y mae wedi’u cymryd, yn enwedig o ran cysylltu ag awdurdodau lleol, yn dilyn cyhoeddi’r ymchwil i archwilio’r berthynas rhwng taliadau meysydd parcio a nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yng Nghymru.