Cyfarfodydd

P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at y Llywydd a'r Prif Weinidog yn unol â thermau cais y deisebydd.

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i goffáu 15 Mai ac a fyddai'n ystyried gwneud mwy i nodi'r diwrnod.

·         Ysgrifennu at y Llywydd, sy'n Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn a oes gan y Cynulliad unrhyw ddigwyddiadau sy'n coffáu 15 Mai ac a fyddai'n bosibl ystyried gwneud rhagor i nodi'r diwrnod.