Cyfarfodydd

P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ofyn i'r Pwyllgor Cyllid ystyried pwyntiau pellach y deisebwyr; a

·         Chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennu Cyllidebau yn yr Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

·         Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Datganodd Russell George y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

·         Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gofyn am ei barn ar sylwadau pellach y deisebwyr; a
  • gofyn i'r Pwyllgor Cyllid ystyried y ddeiseb a'r materion y mae'n eu codi fel rhan o'i waith craffu ar gyllideb nesaf y Cynulliad.