Cyfarfodydd

P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth Cymru wedi ei ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch, ac yn ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi penderfynu eu gwrthod.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ar y Polisi Echdynnu Petrolewm a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gadarnhau bod y Pwyllgor wedi deall yn gywir y byddai unrhyw gais newydd am drwydded i echdynnu petrolewm yn cael ei 'alw i mewn' gan Lywodraeth Cymru pe bai'r awdurdod lleol perthnasol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am y diweddariad a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn diwedd tymor yr hydref, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i:

 

  • aros am sylwadau pellach y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet; ac
  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddi benderfynu ar ddull Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y trinnir trwyddedau presennol a pholisi yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn beth fydd goblygiadau datganoli pwerau pellach dros olew a nwy ar y tir i bolisi Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am  wybodaeth ynghylch Bil Cymru cyn ail-drafod y mater â Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Pwyllgor a chytunwyd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar y ffordd orau i weithredu ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog a'i hystyried bryd hynny, ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddo:

 

·         nodi diddordeb y Pwyllgor yn y mater hwn;

·         roi rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adrodd i'r Cynulliad; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda mwy o wybodaeth pan fydd yn adrodd i'r Cynulliad.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-648 Diwygio'r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n ymgyrchydd hirsefydlog yn erbyn ffracio.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros hyd nes y ceir trafodaeth â'r deisebwyr pan gaiff y ddeiseb ei chyflwyno, a gofyn am eu sylwadau ysgrifenedig ar ymateb y Gweinidog.

 

Caiff y ddeiseb ei hailystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Hydref.