Cyfarfodydd

P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol a oedd yn dangos bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli lle nad oes gan y Cynulliad y pŵer i gymryd y camau y mae'r ddeiseb yn galw amdanynt.  O ystyried hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor anfon crynodeb o'r cyngor cyfreithiol ymlaen at y deisebydd.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-641 Perchnogion Tir nad yw wedi cael ei Ddatblygu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i gael cadarnhad gan gynghorwyr cyfreithiol a oedd gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu er mwyn gweithredu'r ddeiseb.