Cyfarfodydd

CLA550 - Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru)

NDM5804 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2015.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd

 

Penderfyniad:

NDM5804 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 29/06/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

CLA550 - Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe’u gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd ar: Dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 31 Gorffennaf 2015