Cyfarfodydd

P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-645 Achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gweithredu dros Blant ynghylch y ddeiseb hon a P-04-643 Arbed Dechrau'n Deg yng Nghroeserw a chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i Gweithredu dros Blant am eu barn ar y llythyr gan yr awdurdod lleol; a

·         gofyn i'r deisebwyr am unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt ynghylch yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn:
    • am ymateb i sylwadau Gweithredu dros Blant a'r deisebydd;
    • sut y caiff yr arian a roddir i awdurdodau lleol ei gyfrifo;
    • pa asesiad y mae wedi'i wneud yn ddiweddar ynghylch a yw'r cyllid yn ddigon i dalu'r costau;
  • ysgrifennu at Gweithredu dros Blant i ofyn faint yn rhagor o gyllid fyddai ei angen arnynt i allu parhau â'r ddarpariaeth ar y lefel bresennol;
  • ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn:
    • a fydd darpariaeth newydd ar gael erbyn mis Medi;
    • a oes sail i bryderon y deisebwyr y gallai fod bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth;
    • pam na roddwyd darpariaeth amgen yn ei lle yn gynharach o ystyried maint y rhybudd a roddwyd gan Gweithredu dros Blant.

 

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Bethan Jenkins.