Cyfarfodydd

P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar y wybodaeth sylweddol a ddarparwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU; a
  • gofyn ei barn am y llythyr diweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU yn gofyn am fanylion yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar a lywiodd benderfyniad y Gweinidog i gynyddu'r oedran;
  • ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ystadegau ynghylch sut y disgwylir i'r rhaglen frechu HPV ostwng nifer y cleifion sy'n dioddef o ganser yn y 10 mlynedd nesaf; a
  • gofyn am sylwadau gan y deisebydd i ymateb y Gweinidog.