Cyfarfodydd

CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.8a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

NDM5813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Llythyr o Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

11

5

50

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol gan RNIB Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cynghrair Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Cynghrair Henoed Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 


Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: ystyried y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 3

Rick Wilson, Cynghrair Cymru ar gyfer Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion

Jim Crowe, Grŵp Cyfeirio Anabledd

Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 2

Emma Sands, Cynghrair Henoed Cymru

Meleri Thomas, Cynghrair Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru

Keith Bowen, Cynghrair Cynhalwyr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

7.2 Gofynnodd y Cadeirydd i'r tystion rannu eu sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gaiff ei dosbarthu fel papur i'w nodi ar gyfer y cyfarfod ar 17 Mehefin 2015.


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a thrafododd y dystiolaeth a ddaeth i law.

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn nodi ei bryderon ynghylch y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (anghenion cyfarfodydd).


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 1

Simon Burch, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Parry Davies, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

6.2 Cytunodd y tystion i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am yr asesiad a gynhaliwyd ganddynt ynghylch yr effaith ar wasanaethau gwybodaeth a chyngor os bydd angen i'r pwynt cyswllt cyntaf fod yn hyfedr o ran cynnal asesiadau.


Cyfarfod: 04/06/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru)

CYPE(4)-16-15 – Papur i'w nodi 2

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/06/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Y weithdrefn uwchgadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2016.

 

CLA(4)-14-15 – Papur 7 – Adroddiad

CLA(4)-14-15 – Papur 8 – Rheoliadau

CLA(4)-14-15 – Papur 9 – Rheoliadau Drafft, Fersiwn Ymgynghori

CLA(4)-14-15 – Papur 10 – Gwelliannau i’r Rheoliadau drafft

CLA(4)-14-15 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-14-15 - Papur 12 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.


Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Rheoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: trafod y dull o weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar reoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chytunodd arno.