Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidog

Llywodraeth Cymru

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Safonau Ysgolion a’r Gweithlu

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog mewn perthynas â'i bortffolio.


Cyfarfod: 30/09/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch Adolygiad Donaldson

Llywodraeth Cymru

 

Huw Lewis AC – y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC - y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr - Seilwaith, Cwricwlwm, Cymwysterau a Chymorth i Ddysgwyr.

Brett Pugh, Cyfarwyddwr - Cyfarwyddiaeth y Gweithlu a Safonau Ysgolion

Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr - Yr Is-adran Rheolaeth ac Effeithiolrwydd

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau am Adolygiad Donaldson.

 


Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ystyriaeth o adolygiad OECD - Improving Schools in Wales: an OECD Perspective

Llywodraeth Cymru

Briff

CYPE(4)-29-14 – Papur 2

 

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Seilwaith, Cwricwlwm, Cymwysterau a Chymorth i Ddysgwyr

Brett Pugh, Cyfarwyddwr, Grŵp Safonau Ysgolion a'r Gweithlu  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog ar yr adolygiad.  Cytunodd i ddarparu nodyn ynglŷn â’r canlynol: 

 

Cymhariaeth o Wledydd Ewrop sydd wedi symud yn gyflym i gael y sgôr 500 yn nhri maes PISA.


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Addysg Uwch a Sgiliau (13.30-14.30)

Tystion:

·         Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

·         Owen Evans, Cyfarwyddwr, yr Adran Addysg a Sgiliau 

·         Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Addysg Uwch

·         Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Isadran Addysg Bellach a Phrentisiaeth

Dogfennau ategol:

EBC(4)-38-13(p1) - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog ynghylch craffu ar Gyllideb 2014-15: Addysg Uwch a Sgiliau

EBC(4)-38-13(p2) – Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru: Addysg Uwch a Sgiliau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

1.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates AC.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i roi gwybodaeth am y dadansoddiad o’r arbedion a wnaed o ganlyniad i uno sefydliadau Addysg Uwch dros y 10 mlynedd diwethaf.

 


Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Owen Evans, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau i:

 

·         roi’r ffigurau diweddaraf ar nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a’u cymharu hefyd â’r ffigurau ar gyfer Rhanbarthau Lloegr;

 

·         darparu nodyn ar yr adnoddau a’r canlyniadau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sy’n astudio gyda’r coleg;

 

·         darparu nodyn ar ba gynlluniau peilot sy’n treialu’r model cymorth ar hyn o bryd lle mae ‘person a enwirar gael i blant y mae risg iddynt ddod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan gynnwys plant a waharddwyd o’r ysgol;

 

·         darparu nodyn yn amlinellu pa raglenni cyflogaeth a sgiliau y bydd y gostyngiad o £3.3 miliwn yn y gyllideb cyflogaeth a sgiliau yn effeithio arnynt fwyaf;

 

·         darparu ffigurau ar ba gyfran o gyllideb Grantiau Dysgu’r Cynulliad a neilltuir i gymorth rhan amser o’i gymharu â chymorth llawn amser.

 

 

 


Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn craffu ariannol canol blwyddyn gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Owen Evans, Cyfarwyddwr – Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

 

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau; Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau; Owen Evans, Cyfarwyddwr – Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes; a Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog a’i swyddogion. Gohiriwyd y cyfarfod yn sgil problemau technegol, a chytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y cyfarfod.

 

 


Cyfarfod: 14/07/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Addysg a Sgiliau (09:00 - 10:00)

·         Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

·         Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog Sgiliau

·         Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol oes a Sgiliau

·         Chris Tweedale, Cyfarwyddwr, Grŵp Plant, Pobl Ifanc ac Effeithiolrwydd Ysgolion   

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Gweinidogion yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau am eu portffolios a’u blaenoriaethau.


Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog : Addysg a Sgiliau (10.05 - 11.00)

EBC(4)-01-11 Papur 1

 

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Owen Evans, Cyfarwyddwr, Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cafodd y Gweinidogion eu holi gan yr Aelodau.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

·         Data ychwanegol am y gwahaniaeth rhwng y rhywiau yn y maes adeiladu

·         Adroddiad ynghylch y diweddaraf am y 18 cam gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc 2011-2015

·         Gwybodaeth am y cyfraddau o bobl sy’n rhoi’r gorau i brentisiaethau.