Cyfarfodydd

P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd o blaid cau'r ddeiseb o gofio bod y prif faterion y mae'n eu codi yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau siom nad oedd yn ymddangos bod Croeso Cymru na Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth a chytunodd i ysgrifennu eto at y ddau sefydliad ac ystyried y ddeiseb ymhellach pan ddaw'r ymatebion i law.

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am ei sylwadau ar sylwadau Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a oedd, ar y cyfan, yn gefnogol iawn i amcanion y ddeiseb; a
    • gofyn a yw wedi bod yn trafod y mater gydag unrhyw weinidogion eraill.
  • trosglwyddo’r ohebiaeth a gafwyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohoni, a’i hystyried wrth drafod y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru);
  • gofyn eto am ymateb gan Groeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru; a
  • sicrhau bod y deisebwyr yn ymwybodol y gallant gysylltu ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ac Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, o gofio bod y Pwyllgor hwnnw’n ystyried y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at:

Ø  Gomisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei barn am y ddeiseb;

Ø  Croeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru, o gofio amcan y deisebwyr i ddefnyddio’r mater hwn fel ffordd o hyrwyddo mentrau twristiaeth awyr agored;

Ø  Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; ac

Ø  Y Dirprwy Weinidog, i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd;

·         Ceisio cael cyngor cyfreithiol ar rôl Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, a allai’r Llywodraeth gymryd rhan fwy uniongyrchol yn y broses, o bosibl drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol, unwaith y caiff ei gyflwyno.