Cyfarfodydd

P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebydd;
  • ceisio ymateb gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a barn awdurdodau de Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru, yn ogystal ag anfon sylwadau'r RSPCA atynt; a
  • sicrhau bod pob un ohonynt yn ymwybodol o farn yr RSPCA

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at:

Ø  Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; ac

Ø  Y RSPCA

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

·         Undeb y Brigadau Tân, Cymru yn gofyn am wybodaeth am y sefyllfa yn Ne a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.