Cyfarfodydd

P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb oherwydd:

 

  • yr argymhelliad i wneud hynny gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
  • nid oes unrhyw reswm i gredu na fydd ystyriaeth Cyfnod 2 yn mynd yn ei blaen; a
  • nid yw ystyriaeth fanwl o welliannau Cyfnod 2 a chyfnodau diweddarach yn addas ar gyfer trafod deiseb ar egwyddorion cyffredinol (sydd wedi'u cytuno beth bynnag).

 

 


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-625 Cefnogaeth i’r Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru): cynnig i gau’r ddeiseb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i argymell y dylid cau’r ddeiseb.


Cyfarfod: 23/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-625 Cefnogaeth i’r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-625 P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb yn ffurfiol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'w gymryd i ystyriaeth wrth lunio eu hadroddiad cam 1 ar y Bil Lefelau Staffio Nyrsio Diogel (Cymru) a gofyn iddynt ein hysbysu o'r cynnydd a phan fyddant yn cau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

11 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.